Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Tachwedd 2021
Amser: 9.00 – 10.15
Categori |
Enwau |
Aelodau'r Bwrdd: |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); David Hanson; Michael Redhouse; Hugh Widdis; |
Yr Ysgrifenyddiaeth: |
Llinos Madeley, Clerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd; Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol i’r Bwrdd; Sulafa Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; David Lakin, Swyddog Cymorth i’r Pwyllgor; |
1 Ystyried gohebiaeth mewn perthynas â dehongli adran 6.8.1 o'r Penderfyniad (prydlesu, is-osod a rhannu) ac adran 2.5 o'r Penderfyniad (cymorth o gronfeydd canolog yn ymwneud â'r pandemig Covid-19)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Nododd y Bwrdd ymddiheuriadau gan Jane Roberts.
1.3 Ystyriodd y Bwrdd yr ohebiaeth gan y Prif Weithredwr a'r Clerc yn gofyn am eglurhad gan y Bwrdd am ei ddisgwyliadau mewn perthynas â dehongli adran 6.8.1, a materion cysylltiedig o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad.
1.4 Trafododd y Bwrdd ei ddisgwyliadau a chytunodd i ymateb i'r Prif Weithredwr a'r Clerc a rhoi amlinelliad ysgrifenedig fel y nodir isod.
1.5 Cadarnhaodd y Bwrdd ei fwriad bod y gofynion ym mharagraff 6.8.1 o'r Penderfyniad yn gymwys i bob cytundeb rhentu newydd a phob cytundeb rhentu sy’n cael ei adnewyddu (ond nid adolygiadau rhent arferol sy’n cael eu cynnal yn unol â chytundeb presennol). Nod y Bwrdd yw, gyda threigl amser, y bydd yr holl gytundebau prydles/rhent sydd ar waith wedi bod yn destun prisiad ac y bydd yr Aelodau wedi cael cyngor cyfreithiol ar addasrwydd eu cytundeb.
1.6 Mewn perthynas â'r senarios ar gyfer Aelodau sy'n dychwelyd a restrir yn llythyr y Prif Weithredwr, byddai'r Bwrdd yn disgwyl i’r gofynion yn 6.8.1. (a) - (d) fod yn gymwys.
1.7 Roedd y Bwrdd yn fodlon ar ddehongliad y Prif Weithredwr o'r darpariaethau a wnaed drwy’r Gronfa Covid, yn amodol ar yr ystyriaethau a ganlyn:
· Cytunodd y Bwrdd, pan mae asesiad risg Covid yn dod i'r casgliad bod angen cymryd gofod swyddfa ychwanegol:
o byddai'r costau cyfreithiol a phrisio cysylltiedig o dan 6.8.1 yn cael eu talu o'r Gronfa Covid (hynny yw, cronfeydd canolog o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad);
o byddai angen i'r asesiad risg hwn gael ei gynnal gan weithiwr proffesiynol iechyd a diogelwch cymwys (y byddai'r gost hefyd yn cael ei thalu o'r Gronfa Covid) a rhaid darparu copi o'r asesiad risg i’r gwasanaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau;
o byddai unrhyw gostau rhent ychwanegol sy’n deillio o hynny hefyd yn cael eu talu o'r Gronfa Covid am uchafswm o 2 flynedd o'r dyddiad y gwnaed y cytundeb rhentu (byddai angen hawlio costau wedi hynny o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr).
o byddai angen i'r asesiad risg gael ei gynnal gan weithiwr proffesiynol iechyd a diogelwch cymwys (y byddai'r gost hon hefyd yn cael ei thalu o'r Gronfa Covid);
o bydd angen darparu copi o’r asesiad risg i’r gwasanaeth Cymorth i’r Aelodau;
o bydd angen i’r Aelod ddarparu datganiadau o’r canlynol i’r gwasanaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau;
bod y newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud i'r swyddfa yn cael eu caniatáu o fewn telerau'r brydles ac nad oes unrhyw gostau gwneud iawn (neu ddatganiad ynghylch beth allai'r costau hynny fod yn y dyfodol);
bod y newidiadau yn angenrheidiol ac mai dyna'r opsiwn rhesymol gorau i fynd i'r afael â'r risg a darparu gwerth am arian, yn seiliedig ar yr asesiad risg.
o nid yw landlord yn rhoi cydsyniad i’r Aelod wneud yr addasiadau sy’n ofynnol yn ôl asesiad risg Covid a gynhelir gan weithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol cymwys, neu
o mae asesiad risg Covid a gynhelir gan weithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol cymwys yn awgrymu nad yw’r safle presennol yn addas i’r diben,
gall yr Aelod gyflwyno cais i hawlio treuliau eithriadol i'r Bwrdd o dan adran 2.4 o'r Penderfyniad ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â rhoi’r gorau i’r brydles a/neu unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig â symud swyddfa.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio ymateb i'r Prif Weithredwr a'r Clerc yn amlinellu ei disgwyliadau mewn perthynas ag adran 6.8.1, a materion cysylltiedig o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad.